Skip to main content
 
 
 
 
InstantAtlas Server Logo

InstantAtlas™ Server 6

 
 
 
 

Cyfreithiol

Ymwadiad:

Mae’r holl wybodaeth ar y wefan hon wedi ei chyhoeddi mewn ffydd dda ac ar gyfer dibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid ydym yn sicrhau cyflawnrwydd, dibynadwyedd na chywirdeb yr wybodaeth hon. Mae unrhyw weithgarwch yr ydych yn cymryd yn seiliedig ar yr wybodaeth ar eich cyfrifoldeb eich hun. Ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu iawndaliadau mewn cysylltiad â’i defnyddio.

O’r wefan, cewch ymweld â gwefannau eraill gan ddilyn y dolenni i’r gwefannau hyn. Ymdrechwn i roi dim ond dolenni i safleoedd defnyddiol a moesegol, nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys neu natur y safleoedd hyn, ac nid yw’r dolenni i’r safleoedd eraill yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo cynnwys y safleoedd hyn. Nodwch, bydd rhai o'r safleoedd allanol ar gael yn Saesneg yn unig.

Byddwch yn ymwybodol, wrth ichi adael ein safle, efallai y bydd gan safleoedd eraill polisïau preifatrwydd eraill sydd tu hwnt i’n rheolaeth.

Hawlfraint:

Mae hawlfraint yr holl ddeunyddiau a hawliau eiddo deallusol y wefan hon, gan gynnwys, heb gyfyngiadau, testun, logo, iconau, lluniau a’r holl gywaith, yn perthyn inni a’n cyflenwyr oni bai ein bod wedi nodi fel arall.

Gallwch ddefnyddio’r tudalennau’n bersonol neu er ddibenion anfasnachol heb ein caniatâd. Cewch ddefnyddio’r deunydd er ddibenion masnachol gyda’n caniatâd ysgrifenedig yn unig.

Os ydy’r eitemau â hawlfraint ar y wefan hon yn cael eu hail-gyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid datgan ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Ail-ddefnyddio gwybodaeth o’r Cyfrifiad:

Os hoffech lawrlwytho unrhyw dablau o’r Cyfrifiad, rhaid ichi geisio am drwydded clic o Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (http://www.opsi.gov.uk/click-use/index).

Mapio:

Rydym yn defnyddio mapio Arolwg Ordnans dan drwydded o Arolwg Ordnans er mwyn cefnogi defnydd yr wybodaeth gan y cyhoedd. Os hoffech ddefnyddio mapio Arolwg Ordnans er ddibenion eich hunain, rhaid cysylltu â nhw am gyngor ar drefniadau’r drwydded. Mae’r mapiau ar y wefan hon yn seiliedig ar ddeunydd Arolwg Ordnans dan Hawlfraint y Goron. Rydym yn cadw trwydded o Arolwg Ordnans ar ran Reolwr Offer Swyddfa Ei Mawrhydi. Mae unrhyw atgynhyrchiad yn doriad o Hawlfraint y Goron ac efallai y bydd yn arwain at weithrediad cyfreithiol. Ein rhif trwydded yw 100043376.

Diogelu Data:

Rydym yn prosesu data personol yn unol â deddfwriaeth gyfoes ynghylch diogelu data. Wrth ichi gyrchu data o’r wefan hon, rhaid sicrhau bod eich defnydd yn unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol.

Deddf Lywodraethol:

Mae’r telerau ac amodau hyn yn destun gyfreithiau Lloegr a Chymru ac rydych yn cytuno bod llysoedd Lloegr a Chymru ag awdurdodaeth echgynhwysol gydag unrhyw anghydfod.

 
Hygyrchedd  ·  Map y Safle  ·  Cysylltwch â ni  ·  Cyfreithiol  ·  Adborth  ·  Uned Ddata  ·  InstantAtlas  · 
© GeoWise Ltd, 2009  · IBC v2.0